Amdanom Ni

 

Agorwyd ein hysgol ym 1976, prosiect dylunio /adeiladu rhwng yr Adran Addysg a Gwyddoniaeth yn Llundain, Y Swyddfa Gymreig a Chyngor Sir Dyfed.

Caewyd pum ysgol bentref fechan er mwyn darparu cyfleon cyfoethog ac eang i ni blant i ddysgu a chyd-chwarae.Caeodd Ysgol Gynradd Llwynygroes ym 1984 a dechreuodd plant y pentref fynychu Ysgol y Dderi.

Ysgol ardal yw ein hysgol gyda saith dosbarth o'r Meithrin i Flwyddyn 6.

Mae'n hysgol yn un hapus gyda lle i 144 o ddisgyblion.

The school building is very modern and beautiful and was designed especially for us. Most areas are open plan and on our level. We value the inclusiveness of the design.

Mae adeilad yr ysgol yn un modern a hardd wedi'i gynllunio yn arbennig ar ein cyfer ni. Mae'r rhan fwyaf o'r ardaloedd o gynllun agored ac at ein lefel ni. Gwerthfawrogwn rwyddineb y cynllun.

 

 

Neuadd yr ysgol yw ei chalon, ble byddwn yn cwrdd  ddwywaith yr wythnos am wasanaethau ar y cyd.Defnyddir hi hefyd ar gyfer gwersi Ymarfer Corff a chinio ysgol.Mae gennym ardaloedd chwarae i'r Cyfnod Sylfaen a'r adran Iau sy'n lliwgar a bywiog gyda llawer o weithgareddau hwyliog a symbylus i ni.Hefyd mae gennym gae chwarae,ardal gweithgareddau a chyfle i rannu ardal chwarae'r pentref a'r gymuned.

Lle pwysig yw cae'r goedlan, lle y dysgwn nifer o sgiliau newydd a rhoi ar waith lawer o sgiliau y dysgwn amdanynt yn yr ystafell ddosbarth.Mae'n gardd lysiau a ffrwythau yn rhan ar wahan yn y cae. Rydym hefyd yn gysylltiedig a phrosiect Long Wood, coedwig gymunedol leol ble rydym wedi plannu coed a chymryd rhan ym mhrosiectau Ysgol y Goedwig.