Cymuned Rhyngwladol

Roots and WingsThere are two values which you can give to your child as a present for life:

First "Roots"  then "Wings"

(Dihareb Indiaidd Americanaidd)

 

Nodau ac Amcanion

  • Rhoi cyfle i hyrwyddo dolen gyswllt a chyfeillgarwch rhwng plant o wahanol gefndiroedd a diwylliant.
  • I addysgu'r disgyblion yngl?n ag integreiddio materion byd eang i'r cwricwlwm.
  • Galluogi'r disgyblion i rannu profiadau a diwylliannau gwahanol.
  • Sicrhau bod disgyblion yr ysgol hon yn derbyn sgiliau cyfathrebu, sgiliau Technoleg Gwybodaeth ac i godi eu hymwybyddiaeth o wahanol ieithoedd.
  • I ddatblygu cyfrifoldebau ac annibyniaeth.
  • I gefnogi athrawon i ymweld a gwledydd tramor, i ychwanegu dimensiwn rhyngwladol i'n system addysg ac i gyfrannu tuag at gymwysterau athrawon.
  • I hyrwyddo gwell ymwybyddiaeth Ewropeaidd yn y disgyblion.

Mae'r ysgol wedi ymrwymo i brosiect "Gwreiddiau ac Adenydd" ers 1996 ac wedi derbyn cefnogaeth ariannol yn flynyddol o'r Cyngor Prydeinig.

Mae gennym bartneriaid yn y gwledydd canlynol:

  • Denmarc
  • Norwy
  • Latfia
  • Slofenia
  • Yr Eidal