Gwisg Ysgol

 

Mae gennym ni wisg ysgol ffantastig yn Ysgol Y Dderi am bris rhesymol. Mae'n golchi'n dda ac yn gwneud bywyd chi y rhieni, tipyn yn haws! Mae gwisgo gwisg ysgol yn bwysig i ni, yn enwedig ar deithiau gan ei fod yn ein cynorthwyo i adnabod y plant yn ein gofal. Glas tywyll a jâd yw lliw ein gwisg ysgol.

Dyma'r crys chwys a'r crys polo, sy'n cael eu gwisgo gyda sgert neu throwsus llwyd. Glas tywyll yw'r crys chwys, gyda'r logo wedi ei bwytho'n jâd. Maent wedi eu gwneud o 100% cotwm. Mae'r crys polo mewn jâd a logo'r ysgol wedi ei bwytho mewn glas tywyll.  Maent wedi eu gwneud o 65% cotwm a 35% poliesrt.   

Mae siaced wlân yn hanfodol ar gyfer y gaeaf. Glas tywyll yw'r siaced gyda logo jâd. Maent wedi eu gwneud o gotwm a pholiestr. Mae siaced aml bwrpas, sydd yn gynnes ac yn dal glaw ar gael hefyd.