Nofio a Chwaraeon

 

Mae Addysg Gorfforol yn elfen bwysig o fywyd ysgol a chynigir amrywiaeth o weithgareddau yma.  

Mae gennym gae chwarae mawr efo'r marciau pwrpasol ar gyfer gemau pêl-droed a rygbi, cwrt pêl-rwyd a thenis yn ogystal. Rydym yn aml yn cymryd rhan mewn twrnameintiau hwyl a chystadleuol er mwyn ehangu sgiliau'n ymhellach.  

Defnyddiwch y dolenni cyswllt isod er mwyn gwybod rhagor am y pwnc.

Digwyddiadau ac amserlenni

Yma fe gewch ddyddiadau ein gwersi nofio am y tymor.

Cyfleoedd all-gyrsiol
Cawn weithiau hyfforddwyr proffesiynol yn dod i mewn i gynnal gwersi ar safle'r ysgol. Cynhelir Glwb Chwaraeon yn ystod tymor yr Haf  ac yn aml bydd clwb yr Urdd yn trefnu gweithgareddau mwy anturus fel sgio neu sglefrolio.

Dillad Chwaraeon

Mae gwisg arbennig gennym ar gyfer ymarfer corff, sef crys t gwyn gyda logo'r ysgol arno a siorts glas tywyll.  Maent ar werth trwy'r ysgol gyda bag addas i'w cario am £10.00

Pwll Nofio 

Dyma fanylion Pwll Nofio Llambed.