Ysgol Eco ac Iach

Aelodau'r Bwrdd Eco ac Iach

Mae'r plant yma wedi cael eu ethol yn arbennig ar gyfer y dyletswydd o gadw'r ysgol yn un iach ac yn un sy'n ystyried yr amgylchedd. Criw frwdfrydig sydd i'w gael yma sy'n llawn syniadau i gael y plant ac athrawon i ddilyn bywyd iach a chynaliadwy.

 

 

Ail-gylchu

O fewn yr ysgol rydym yn ail-gylchu papur, bateris, ffonau symudol a chetrisau inc.

 

 

Compostio

CompostingMae compostio yn rhan annatod o fywyd yr ysgol

 

Beth sy'n gallu cael eu gompostio?

  • Ffrwythau
  • Rhisgl llysiau
  • Bagiau te
  • Tywelion papur

 

 Llywodraethwyr a chyfrifoldeb: Helen Duffee a Jennifer George

 

 

 

 

Yr Ardd

Mae plant Meithrin a Derbyn yn tyfu llysiau Gardd yr ysgol yn eu gardd hwy.  Yna ar ol y cynhaeaf maent yn defnyddio'r llysiau i baratoi bwydydd arbennig.  Mae eu cawl yn flasus iawn a mae siytni ar werth am bris teg!

Maent hefyd yn tyfu blodau lliwgar, ond mae rhaid cofio chwynu'n aml.

 

 

Gardd Gymunedol

Mae Ardd Gymunedol wedi cael ei sefydlu o fewn yr ysgol o dan ofal Ms Helen Duffee.

Rydym yn coginio'r llysiau ar gyfer cinio ysgol yn ogystal â gwerthu'r cynnyrch yn siop yr ysgol.

 Glaw wedi ei gasglu sydd orau i blanhigion.

Casglu dwr glaw Rhoi dwr i'r planhigion

Rydym fel aelodau Eco ac Iach Ysgol y Dderi yn hapus iawn ein bod wedi derbyn sawl baner werdd ac ar hyn o bryd rydym ar Gam 5 yng Nghynllun Ysgolion Iach.