Gwaith Cartref

Bydd gan eich plentyn lyfr gwaith cartref. Mae disgwyl iddynt ei gadw'n lan ac yn ddestlus, ac i ysgrifennu/cwblhau tasgau yn daclus bob amser.

Llyfrau Llyfrgell

Ar ddydd Llun bydd plant y Cyfnod Sylfaen yn newid eu llyfrau llyfrgell felly bydd rhaid iddynt ddod â'r llyfr gyda hwy i'r ysgol. Mae ganddynt wythnos i ddarllen y llyfr. Bydd disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 2 yn defnyddio'r llyfrgell yn ogystal.

Gwaith Cartref

Blynyddoedd 1 a 2: Gosodir tasg gwaith cartref ar Ddydd Gwener ac mae'n cael ei gasglu ar Ddydd Mawrth. Ni osodir gwaith cartref yn ystod y gwyliau.

Blynyddoedd 3, 4, 5 a 6: Gosodir tasgau gwaith cartref ar Ddydd Llun. Caiff un tasg ei chasglu ar Ddydd Iau, ac mae yna brawf sillafu a thablau ar Ddydd Gwener. Ni osodir gwaith cartref ar benwythnosau nac yn ystod gwyliau. 

Llyfrau darllen

Mae gan ddisgyblion bl 1 - 6 lyfrau darllen yn eu ffeiliau. Mae'r llyfrau darllen yn cael eu newid yn gyson yn ôl datblygiad y plentyn. Er ein bod yn darllen gyda'r plant yn gyson rydym yn annog rhieni i ddarllen gyda'u plant gartref hefyd.

 

Llinell Gymorth Gwaith Cartref Cymraeg

Mae llinell gymorth gwaith cartref ysgolion cynradd wedi ei lansio ym mis Tachwedd 2005 gan Bwrdd Yr Iaith.  Mae'r gwasanaeth yn cael ei redeg gan 'Menter Môn' fel rhan o ddolen gyswllt gwasanaethau Cymreig.  Mae'n cynnig cymorth i rieni a phlant sy'n derbyn addysg Gymreig neu addysg ddwyieithog. Mae'r gwasanaeth yn cynnig: 

  • Cymorth gyda geirfa
  • Cymorth pwrpasol yngl?n â chynorthwyo eich plentyn i gyflwyno gwaith cartref trwy gyfrwng y Gymraeg
     
  • Mae'r gwasanaeth ar agor o ddydd Sul i ddydd Gwener, rhwng 3yp a 9yh.  Rhif ffôn:  0871 230 0029 neu e-bost post@gwaithcartref.com or post@homeworkinwelsh.com