Cinio Ysgol

  Mae Susan Owens Jones, yn gogyddes o fri.  Mae'n cymryd balchder yn ei gwaith ac yn paratoi cinio blasus bob dydd. Mae cinio ysgol wedi ei sybsideiddio gan Gyngor Sir Ceredigion.

Mae pob cinio yn cael ei baratoi ar safle'r ysgol, gan ddefnyddio cynhwysion ffres a maethlon. Mae bwrdd du tu allan i'r neuadd yn dangos bwydlen yr wythnos. 

Gellir paratoi cinio llysieuwr neu vegan, a gellir paratoi cinio arbennig i gwrdd ag unrhyw alergedd bwyd.

     

Pris cinio ysgol yw £2.60 y plentyn.  Mae trefn Parentpay wedi ei sefydlu er mwyn gwneud taliadau.  Mae prydau ysgol am ddim i bob disgybl Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 gan Lywodraeth Cymru.

Mae cinio am ddim ar gael i deuluoedd sy'n ei deilyngu. Cewch i Ceredigion County Council free meals webpage here er mwyn gweld os ydych yn deilwng. Mae modd i chi lawrlwytho'r ffurflen o fan hyn neu o safle'r Cyngor.

Brechdanau

Mae angen i becynnau bwyd sy'n cael eu paratoi adref i fod mewn bocs pwrpasol gyda diodydd mewn potel blastig, dim gwydr! Cedwir rhain ar droli cinio ysgolarbennig yn y neuadd fwyd. Mae modd cadw bwyd arbennig yn yr oergell, rhowch wybod i'r athro/athrawes. 

'Rydym yn rhan o gynllun Ysgolion Iach, felly hyrwyddwn ginio sy'n iachus ac yn faethlon. Ni chaniateir diodydd ffisi na siocled.  Dangosir bod bwydydd iach sy'n isel mewn siwgwr yn hyrwyddo'r gallu i ganolbwyntio.

Byrbrydiau

'Rydym yn hyrwyddo byrbryd iachus adeg amser chwarae.  Gallwch ddanfon ffrwyth gyda'ch plentyn i'r ysgol neu arian i brynu ffrwyth o'r troli ffrwythau organig.  

Mae plant y Cyfnod Sylfaen yn derbyn llaeth yn y bore am ddim.  Gadewch i ni wybod os nad ydych yn dymuno i'ch plentyn dderbyn y llaeth.

Mae plant Meithrin a Derbyn yn cael picnic yn y prynhawn.  Rhowch ddarn o ffrwyth, caws neu gracyr gyda diod iddynt mewn bag pwrpasol os gwelwch yn dda.