ADY

Ar 23ain o fis Mawrth cymeradwywyd y Cod ADY a'r rheoliadau gan y Senedd. Ynghyd â Deddf ADY 2018, bydd y cod a'r rheoliadau yn creu'r system ADY statudol yng Nghymru. Nod y system ADY yw trawsnewid y disgwyliadau, y profiadau a'r canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc ag ADY. O fis Medi 2021 bydd y system ADY yn dod i rym dros gyfnod gweithredu graddol o dair blynedd. Rydym yn darparu pecyn cymorth gwerth £20 miliwn drwy ein Rhaglen Trawsnewid ADY i helpu partneriaid cyflenwi i drosglwyddo i'r system newydd a'i chyflwyno. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen drawsnewid ADY a chanllawiau ar y system AAA bresennol yma gan gynnwys ein cwestiynau cyffredin a'n canllaw rhaglen trawsnewid ADY. Anfonwch unrhyw ymholiadau at SENReforms@llyw.cymru