Clwb Drama

Mae'r clwb Drama yn cynnig y cylfe i blant o flynyddoedd 4 i 6 i ymuno a phlant o wahanol ysgolion yn yr ardal.

Yn ogytsal â chodi hyder eich plentyn mae'n gymorth iddynt i gymysgu â phlant eraill a fydd yn mynychu yr un ysgol uwchradd yn y dyfodol yn ogytsal â datblygu gwaith tîm.

Mae'r perfformiadau yn cael eu creu gan y plant eu hunain gan amlaf ac mae hyd yn oed y plant mwyaf swil yn mwynhau ymuno i greu perfformiadau.

Gwahoddir rhieni i weld y perfformiadau ar ddiwedd mis Mawrth.

Mae'r clwb drama yn cwrdd bob dydd Mawrth o'r ail wythnos ym mis Hydref ac mae'n rhedeg drwy'r tymor hyd at fis Mawrth. Mae'r clwb yn dechrau am 4.00 ac yn gorffen am 4.50.

Cynhelir y clwb yn ysgol Uwchradd Llanbedr Pont Steffan yn y brif neuadd. Gall y bws gludo eich plentyn i'r clwb ar ôl ysgol, a bydd gofyn i rieni gasglu eu plant o'r ysgol Uwchradd yn Llambed am 4.50. 

Mae'r prosiect yn cael ei drefnu a'i staffio gan aelodau o Theatr Felin Fach ac yn cael ei gyllido gan Ganolfan y Celfyddydau yng Ngheredigion. Ni fydd yn angenrheidiol i rieni dalu tâl aelodaeth.  

Am fwy o wybodaeth am y clwb drama cysyllter â Sheila ar 01570 493 424.