LLONGYFARCHIADAU

Llongyfarchiadau i Mrs Mary ein dirprwy, ar gael ei phenodi yn bennaeth Ysgol Gymunedol Llangeitho. Mae ei chyfraniad i’r ysgol bob amser o’r radd flaenaf a mawr yw ein colled. Ond dymunwn yn dda iddi wrth iddi ddechrau ar bennod newydd yn ei bywyd. Yn yr un modd yr ydym yn llongyfarch Miss Lilian, athrawes Meithrin a Derbyn yr Ysgol sydd wedi ei phenodi yn ddirprwy yma yn Y Dderi.

Mi fydd y ddwy yn dechrau ar eu swyddi newydd ym mis Ionawr.