Uned Feithrin a Derbyn Ysgol Y Dderi

GOSOD Y SYLFEINI ar gyfer dysgu gydol oes yw ein nod yn y blynyddoedd cynnar. Mae plant yn dysgu mwy mewn pum mlynedd nag ydynt gweddill eu bywydau.

buwch

 

Yn yr Uned Feithrin a Derbyn rydym yn rhoi sail eang a chytbwys i alluogi plant i ddysgu a datblygu. Mae'r pwyslais ar chwarae a dysgu gweithredol er mwyn cael effaith gadarnhaol ar allu plant i ddysgu a datblygu.

 

 

Y Cyfnod Sylfaen

Mae cwricwlwm Y Cyfnod Sylfaen wedi ei ddatblygu o dan y saith Maes Dysgu gydag Addysg Grefyddol yn stadudol.

Dyma'r saith Maes Dysgu:

  • Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol
  • Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu
  • Datblygiad Mathemategol
  • Dwyieithrwydd
  • Gwybodaeth a Dealltwriaeth o'r Byd
  • Datblygiad Corfforol
  • Datblygiad Creadigol

Mae'r Cyfnod Sylfaen yn gosod pwyslais mawr ar ddatblygu'r plant yn y meysydd canlynol:

  • sgiliau a dealltwriaeth
  • lles personol, cymdeithasol, emosiynol, corfforol a deallusol er mwyn datblygu'r plentyn cyfan
  • agweddau cadarnhaol at ddysgu fel y bydd y plant yn mwynhau ac am barhau â'u haddysg am gyfnod hirach

  • hunan-barch a hunan-hyder i arbrofi, ymchwilio, dysgu pethau newydd a ffurfio perthynas newydd ag eraill 
  • arsylwi a sgiliau mynegiannol a chreadigol i annog eu datblygiad fel unigolion, gyda ffyrdd gwahanol o ymateb i brofiadau a gweithgareddau awyr agored er mwyn i'r plant gael profiadau ymarferol o ddatrys problemau go iawn mewn agweddau fel mathemateg a gwyddoniaeth a dysgu am gadwraeth a chynaladwyedd

Pentre Bach Bach

Mae'r plant yn dysgru trwy amrywiol weithgareddau mewn ardaloedd dysgu gwahanol, tu mewn a thu allan. Cynlluniwyd yr ardaloedd o amgylch cymeriadau Pentre Bach megis 'T? Sali Mali', 'Garej Bili Bom Bom' neu'r goedlan.

ty sali mali siop

Mynediad i'r Uned Feithrin yn Ysgol Y Dderi

Gall blant ddechrau yn y meithrin y tymor wedi eu penblwydd yn dair oed. Rhaid llenwi'r ffurflen dderbyn a'i danfon at Swyddfa Addysg Ceredigion.

Mae gan rieni'r opsiwn o ddod â'u plant yn rhan amser - bob bore o 9.05yb tan naill ai 11.30yb neu 1.00yp, yn dibynnu os ydynt am gael cinio gyda ni. Mae cinio dau gwrs yn cael ei baratoi ar y safle gan ddefnyddio cynnyrch lleol, mae opsiwn llysieuol ar gael yn ogystal.

Trosglwyddo o'r Meithrin i'r Derbyn

llong

Mae'r plant yn trosglwyddo'n naturiol o'r meithrin i'r derbyn y tymor wedi eu penblwydd yn bedair oed.

Golyga hyn eu bod yn mynychu ysgol llawn amser o 9.05yb tan 3.15yp.

Mae 'Clwb Mes Bach' ein clwb ôl ysgol ar gael i'r plant.

 

 

Bywyd yn y Meithrin

Cymraeg yw prif iaith y dosbarth. Defnyddir Saesneg mewn modd sensitif ar gyfer helpu plant di-Gymraeg i setlo yn eu hamgylchfyd newydd.

Mae pob plentyn yn derbyn llaeth yn ystod y bore o dan nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae cinio'n cael ei baratoi ar safle'r ysgol. Mae modd talu Mrs Spate, ein dynes cinio ar fore Llun neu Gwener. Mae ffurflenni cinio am ddim ar gael.

bag ysgol

Bydd bob plentyn yn derbyn ffeil las bersonol. Rydym yn newid llyfrau llyfrgell ar fore Llun,ac yn achlysurol bydd y plant yn derbyn tasg cartref ar ddydd Gwener. Felly bydd angen dod â'r ffeil las i'r ysgol ar y diwrnodau hynny.

 

Mae plant y derbyn yn cael gwers nofio am yn ail wythnos. Mae angen gwisg nofio synhwyrol ar gyfer y wers (dim siorts hir i'r bechgyn), mae angen i'r merched glymu eu gwallt yn ôl a pheidio a gwisgo gemwaith. Bydd angen rhoi enw'r plentyn ar bob dilledyn.

Mae gwisg ysgol ar gael oddi wrth Miss Gwen, un o gymorthyddion y Cyfnod Sylfaen neu Mrs Helen yn y swyddfa.

Hwyl a Sbri

Mae dysgu yn hwyl! Edrychwch ar y lluniau isod sy'n rhoi blas o'r gweithgareddau amrywiol mae'r plant yn eu mwynhau yn yr Uned Feithrin a Derbyn.

Darlunio Chwarae rol ty sali mali siarad ar y ffon lluniau tywod

tatws trydan