Croeso i Ysgol Y Dderi

 

Hoffai aelodau “Bwrdd y Plant” Ysgol Ardal Gymunedol y Dderi gymryd y cyfle hwn i’ch gwahodd i’n hysgol.

Hoffwn eich tywys ar daith o amgylch yr ysgol.

Gobeithio y gallwn ateb unrhyw gwestiynau neu ymholiadau sydd gennych. I weld sut mae’r ysgol yn gweithio mae angen i chi ymweld â ni.

Byddwn ni wrth ein bodd petaech yn dod i weld dros eich hunain, ein hamgylchedd ni o ddysgu, rhannu a gofalu.

Carwn i chi ymweld â ni er mwyn i chi i weld yr amgylchedd o ddysgu,rhannu a gofalu rydym ni'n ei mwynhau o ddydd i ddydd. Mae croeso cynnes i ddarpar rieni a rhieni presennol i edrych o amgylch ein gwefan, a chofiwch cysylltwch â ni os oes gennych gwestiwn.

Ein gwledigaeth yw; O'r fesen fach, tyfwn i fod yn:

  • ddysgwr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu gydol ein bywydau
  • unigolion iach, hyderus sy'n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
  • gyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
  • ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy'n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a'r byd

Ein gwerthoedd yw Caredigrwydd, Cymreictod, Dyfalbarhad, Hapusrwydd, Iachus, Parch, Perthyn.

Mae holl bolisiau'r ysgol ar gael ar gais.