Yr Urdd

mr urdd

Mae'r Urdd yn bwysig yng Nghymru.Ystyr yr Urdd yw Mudiad Ieuenctid ac mae'r rhan fwyaf o blant yng Nghymru ynghlwm ag ef.Mae'n agored i blant o flwyddyn derbyn hyd at flwyddyn 6.

Prif weithgaredd y flwyddyn yw'r Eisteddfod sydd yn gasgliad Cenedlaethol o blant dros Gymru gyfan .Yn yr Eisteddfod ceir canu, dawnsio, actio, celf a thechnoleg a llawer mwy.

Mr UrddMae'r Urdd yn Ysgol Y Dderi yn cynnig calendr amrywiol o weithgareddau sy'n canitau i ddisgyblion i archwilio amrywiaeth o weithgareddau sy'n hwyl ond hefyd yn addysgiadol. Gall y gweithgareddau fod yn:

  • drama
  • canu
  • coginio
  • nofio
  • sglefrolio
  • giwbcartio
  • bingo
  • cwisiau
  • celf a thechnoleg
  • gweithgareddau yn seliedig ar natur
  • a llawer mwy ....

Unwaith y flwyddyn mae yna gyfle i ddisgyblion hyn i dreilio penwythnos yn y gwersyll yn Llangrannog,Caerdydd a Glan-llyn.

Ar gyfer blynyddoedd 1 i 6 mae'r Urdd yn cwrdd bob dydd Mercher o 3.30 hyd 4.30 (weithiau yn hwyrach ar gyfer rhai gweithgareddau/ceir cadarnhad o flaenCooking llaw am hyn). A fedrwch chi sicrhau eich bod yn casglu eich plentyn yn brydlon am 4.30. Diolch.

Bydd Blwyddyn 1 a derbyn yn cwrdd amser cinio ar ddydd Llun.

Os ydych chi am ymaelodi cysylltwch â Sheila Pugh-Davies ar 01570 493 424 neu glicio yma i gysylltu â ni ar lein.