Y Cyfnod Sylfaen

Mae’r Cyfnod Sylfaen yn ymestyn i flynyddoedd 1 a 2 ac o’r herwydd mae’r ardaloedd dysgu wedi cael eu datblygu yn unol ag anghenion disgyblion 5 i 7 oed.

Meysydd Dysgu y Cyfnod Sylfaen: -

  • Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol
  • Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu/Datbygu’r Gymraeg
  • Datblygiad Mathemategol
  • Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd
  • Datblygiad Corfforol
  • Datblygiad Creadigol
  • Addysg Grefyddol

Mae ardal addysg Blwyddyn 1 a 2 yn ddatblygiad a pharhad o’r profiadau ’rydym wedi derbyn eisoes yn yr uned Feithrin a Derbyn. O fewn yr ardal eang yma ceir gwahanol adrannau; ardaloedd trafod a gwrando ac ystafell dywyll .

          

‘Rydym yn hoffi cwblhau ein heriau wythnosol o fewn yr ardaloedd yma, yn ogystal ag arbrofi ac ymchwilio, myfyrio a darllen. Ceir hefyd swît gyfrifiaduron ar gyfer cwblhau tasgau ar CD ROMs, y We a rhaglenni amrywiol eraill.

Mae’r corneli Celf a Cherdd yn cael eu defnyddio er mwyn datblygu’n sgiliau creadigol a chaniatáu i ni arbrofi fel aelod o gr?p neu ar ein pennau ein hunain. O fewn y Gornel Ymchwilio cawn y cyfle i arsylwi ac arbrofi gan ddefnyddio meicrosgop.

    

Ceir llawer o fannau diddorol ar gyfer darllen megis ar gefn y camel, yn y bath neu o dan y goeden.‘Rydym yn defnyddio ardaloedd tu allan fel adnodd dysgu ychwanegol sy’n hyrwyddo chwilfrydedd a phrofiadau uniongyrchol - hwyl a chyffro mewn modd diogel. Bwriad yr
ardaloedd yw’n galluogi i ryngweithio â chyfoedion eraill yn ogystal ag oedolion. Derbyniwn brofiadau unigryw o elfennau’r saith maes yn ogystal ag Addysg Grefyddol.

O fewn Blwyddyn 1 a 2 mae dwy athrawes a chwech cymhorthydd. Maent yn cyd-weithio fel tîm i ddiwallu pob angen drwy ein hasesu’n ddyddiol a chynllunio’r cam nesaf yn ein datblygiad.

Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol

Mae pwyslais ar ddatblygu ein sgiliau cyfathrebu yn rhan annatod o weithgareddau’r dydd. Cymerwn ran mewn sesiynau amser cylch yn wythnosol er mwyn hyrwyddo ein gallu i fynegi ein hunain ac i ddysgu gwrando ar eraill.

Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

Yn wythnosol ‘rydym yn ymgolli mewn gweithgareddau a phrofiadau sy’n herio ein sgiliau siarad cyfathrebu a gwrando hyd eithaf ein gallu. Ceir cyfle i gwestiynu, meddwl ac ymateb i sefyllfaoedd a gwneud dewisiadau drwy wahanol gyfryngau. Rhoddir cyfle i fwynhau darllen a chyd-ddarllen llyfrau o bob math. Ceir cyfle i chwarae ac arbrofi gydag iaith, gan barhau i greu geiriau a brawddegau sy’n ein harwain at ysgrifennu estynedig.

 

Datblygiad Mathemategol

Rhoddir cyfle i wneud gwaith mathemateg pen ar gychwyn pob sesiwn er mwyn magu hyder. ’Rydym yn ymchwilio i wahanol agweddau o fathemateg ymarferol bob dydd. Cawn ein herio i gwblhau gweithgareddau yn annibynnol ac o fewn grwp ffocws, fel unigolyn neu fel aelod o gr?p neu bâr. Wrth ddilyn ein trywydd ym mathemateg ‘rydym yn diwallu ein chwilfrydedd a’n diddordebau personol.

Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd

Rhoddir cyfleoedd i holi ac ymchwilio am y byd o’n cwmpas. Cyflwynir ni i hanes, pobl ac ardaloedd, byd gwaith, pethau byw ac anfyw. Dysgwn i fynegi ein syniadau, i gyflawni tasgau ymarferol, gweld y canlyniad ac i gofnodi ein darganfyddiadau.

Datblygiad Corfforol

Yn ddyddiol cawn gyfle i ddatblygu ein sgiliau corfforol gan gynnwys sgiliau mân e.e.defnyddio siswrn, dal pensil a hefyd sgiliau symud o fewn gofod. Cawn hefyd ein hannog i fwynhau sesiynau ymarfer corff sy’n hyrwyddo ein hymwybyddiaeth o ofod, cydbwysedd, rheolaeth a chydsymud.

    

Datblygiad Creadigol

Yn yr ardal Gelf , Cerdd a Pherfformio, cawn gyfle i ddatblygu ein dychymyg a’n creadigrwydd. Arbrofwn a dyluniwn yn y gornel Celf gydag amrywiaeth eang o gyfryngau .e.e Paent, pasteli, sialc, a phob math o ddefnyddiau. Ymatebwn i amrywiaeth o ffynonellau cerdd , cawn ein hysbrydoli i ganu, i gyfansoddi a pherfformio gydag offerynnau amrywiol.

Addysg Grefyddol

Rydym yn dathlu ein Cymreictod, ein Diwylliant a’n Crefydd, ond hefyd pwysigrwydd parchu a dysgu am gredoau a chrefyddau eraill. Dwywaith yr wythnos down ynghyd fel ysgol i gael gwasanaeth ffurfiol Cristnogol.