ADRODDIAD AROLYGIAD Y DDERI

Cynhaliwyd arolygiad o Ysgol Y Dderi ym mis Mehefin 2008, gan dîm annibynnol o arolygwyr o dan arweiniad Miss Dorothy Morris.

Dyma beth a ddyfarnwyd.

“Mae hon yn ysgol dda gyda nodweddion rhagorol. Mae’r nodweddion rhagorol yn cynnwys arweiniad blaengar y pennaeth, y cwricwlwm cyfoethog a’r profiadau dysgu symbylol a ddarperir, yr amgylchedd dysgu ysgogol, y llwyddiant o ran hyrwyddo cynhwysiad a chyfle cyfartal, a’r cydweithio arbennig ymhlith yr holl staff. Caiff hyn ei danategu gan reolaeth effeithlon’r holl adnoddau dysgu. Ers yr arolygiad diwethaf, mae’r ysgol wedi cynnal y safonau da yn y pynciau a arolygwyd ac wedi gwella ansawdd y ddarpariaeth addysgol ymhellach.

Mae’r adnoddau hunan arfarnu, a ysgrifennwyd gan y pennaeth, y dirprwy, y corff llywodraethol a’r staff, yn ddogfen gynhwysfawr sy’n dynodi cryfderau a meysydd lle mae angen gwelliannau eglur.

Dyfarnwyd chwech Gradd 1 ac un Gradd 2.

Yn y gwersi a arolygwyd, mae safonau cyflawniad y disgyblion fel a ganlyn :

  • Gradd 1 – 19%
  • Gradd 2 – 81%

Mae’r canranau yma yn uwch na tharged Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer 2010, sef bod ansawdd y dysgu a aseswyd gan Estyn yn Radd 3 neu’n well mewn 98% o ddosbarthiadau.”